9 a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’,ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’.Cânt bori ar fin y ffyrdda chael porfa ar y moelydd.
10 Ni newynant ac ni sychedant,ni fydd gwres na haul yn eu taro,oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain,ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr.
11 Gwnaf bob mynydd yn ffordd,a llenwi o dan fy llwybrau.
12 Y mae rhai yn dod o bell,a rhai o'r gogledd a'r gorllewin,ac eraill o wlad Sinim.”
13 Cân, nefoedd; gorfoledda, ddaear;bloeddiwch ganu, fynyddoedd.Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl,ac yn tosturio wrth ei drueiniaid.
14 Dywedodd Seion, “Gwrthododd yr ARGLWYDD fi,ac anghofiodd fy Arglwydd fi.”
15 “A anghofia gwraig ei phlentyn sugno,neu fam blentyn ei chroth?Fe allant hwy anghofio,ond nid anghofiaf fi di.