24 Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dânac y diflanna'r mân us yn y fflam,felly y pydra eu gwreiddynac y diflanna eu blagur fel llwch;am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd,a dirmygu gair Sanct Israel.
25 Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro;fe grynodd y mynyddoedd,a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
26 Fe gyfyd faner i genhedloedd pell,a chwibana arnynt o eithaf y ddaear,ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim.
27 Nid oes neb yn blino nac yn baglu,nid oes neb yn huno na chysgu,nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod,nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.
28 Y mae eu saethau'n llyma'u bwâu i gyd yn dynn;y mae carnau eu meirch fel callestr,ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.
29 Y mae eu rhuad fel llew;rhuant fel llewod ifanc,sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaetha'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.
30 Rhuant arni yn y dydd hwnnw,fel rhuad y môr;ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra,a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.