3 Rwy'n gwisgo'r nefoedd â galarwisg,ac yn rhoi sachliain yn amdo iddynt.”
4 Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu,i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair;bob bore y mae'n agor fy nghlusti wrando fel un yn dysgu.
5 Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust,ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.
6 Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.
7 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal,am hynny ni chaf fy sarhau;felly gosodaf fy wyneb fel callestr,a gwn na'm cywilyddir.
8 Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law.Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd;pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf.
9 Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal:pwy a'm condemnia?Byddant i gyd yn treulio fel dilledyna ysir gan wyfyn.