6 Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD,a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni;cewch fwyta o olud y cenhedloeddac ymffrostio yn eu cyfoeth.
7 Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd,yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan,fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad,a chael llawenydd di-baid.
8 “Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder,ac yn casáu trais a chamwri;rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth,a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy.
9 Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd,a'u hil ymhlith y bobloedd;bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabodyn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.”
10 Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD,gorfoleddaf yn fy Nuw;canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth,taenodd fantell cyfiawnder drosof,fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch,a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.
11 Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu,a'r ardd i'r hadau egino,felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliantdarddu gerbron yr holl genhedloedd.