3 Amlheaist orfoledd iddynt,chwanegaist lawenydd;llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf,ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.
4 Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt,a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd,a'r ffon oedd gan eu gyrrwr,fel yn nydd Midian.
5 Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes,a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed,fe'u llosgir fel tanwydd.
6 Canys bachgen a aned i ni,mab a roed i ni,a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn,Tad bythol, Tywysog heddychlon”.
7 Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth,nac ar ei heddwchi orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth,i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder,o hyn a hyd byth.Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.
8 Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob,ac fe ddisgyn ar Israel.
9 Gostyngir yr holl bobl—Effraim a thrigolion Samaria—sy'n dweud mewn balchder a thraha,