1 Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, dŷ Israel.
2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Peidiwch â dysgu ffordd y cenhedloedd,na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd,fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
3 Y mae arferion y bobloedd fel eilun—pren wedi ei gymynu o'r goedwig,gwaith dwylo saer â bwyell;
4 ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur,y maent yn ei sicrhau â morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.
5 Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru;rhaid eu cludo am na allant gerdded.Peidiwch â'u hofni; ni allant wneud niwed,na gwneud da chwaith.”
6 Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt,mawr yw dy enw mewn nerth.
7 Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd?Hyn sy'n gweddu i ti.Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd,ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.
8 Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd,wedi eu dysgu gan eilunod o bren!
9 Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas,gwaith y saer a dwylo'r eurych;a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor—gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
10 Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw;ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol;y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid,ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
11 Fel hyn y dywedwch wrthynt: “Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe gânt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd.”
12 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth,sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb,estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
13 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd,fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear.Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
14 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.
15 Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.
16 Nid yw Duw Jacob fel y rhain,oherwydd ef yw lluniwr pob peth,ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
17 Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad,ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.
18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn;dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny.”
19 Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn,ond dywedais, “Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef.”
20 Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd;aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy;nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.
21 Aeth y bugeiliaid yn ynfyd;nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD;am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.
22 Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod!Cynnwrf mawr o dir y gogledd,i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwchac yn drigfa bleiddiaid.
23 Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd;ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.
24 Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn,nid yn ôl dy lid, rhag iti fy niddymu.
25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod,ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw.Canys y maent wedi bwyta Jacob,ei fwyta a'i ddifetha,ac wedi difodi ei drigfan.