1 Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Onid oes meibion gan Israel?Onid oes etifedd iddo?Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad,a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?
2 Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,“y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid,a bydd yn garnedd anghyfannedd,a llosgir ei phentrefi â thân;yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi,”medd yr ARGLWYDD.
3 “Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai;gwaeddwch, ferched Rabba,gwisgwch wregys o sachliain,galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff;canys â Milcom i gaethgludynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.
4 Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd?O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd,ac yn dweud, ‘Pwy a ddaw yn fy erbyn?’
5 Yr wyf yn dwyn arswyd arnat,”medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,“rhag pawb sydd o'th amgylch;fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer,ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.
6 Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid,” medd yr ARGLWYDD.
7 Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Onid oes doethineb mwyach yn Teman?A ddifethwyd cyngor o blith y deallus,ac a fethodd eu doethineb hwy?
8 Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau,chwi breswylwyr Dedan;canys dygaf drychineb Esau arnopan gosbaf ef.
9 Pe dôi cynaeafwyr gwin atat,yn ddiau gadawent loffion grawn;pe dôi lladron liw nos,nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.
10 Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau;datguddiais ei fannau cudd,ac nid oes ganddo unman i ymguddio.Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion,ac nid ydynt mwyach.
11 Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw;bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi.”
12 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; “Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.
13 Canys tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol.”
14 Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD;anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:“Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn,codwch i'r frwydr.
15 Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd,yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.
16 Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo;gwnaeth dy galon yn falch.Tydi sy'n trigo yn holltau'r graigac yn glynu wrth grib y bryniau,er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr,fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.
17 “Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.
18 Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion,” medd yr ARGLWYDD, “ni fydd neb yn aros nac yn ymweld â hi.
19 Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
20 Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.
21 Fe gryn y ddaear gan sŵn eu cwymp; clywir eu cri wrth y Môr Coch.
22 Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.”
23 Am Ddamascus.“Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad,canys clywsant newydd drwg;cynhyrfir hwy gan bryder,fel y môr na ellir ei dawelu.
24 Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi;goddiweddodd dychryn hi,a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.
25 Mor wrthodedig yw dinas moliant,caer llawenydd!
26 Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
27 “Mi gyneuaf dân ym mur Damascus,ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad.”
28 Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar;anrheithiwch bobl y dwyrain.
29 Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau,llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd;dygir eu camelod oddi arnynt,a bloeddir wrthynt, ‘Dychryn ar bob llaw!’
30 Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau,chwi breswylwyr Hasor,” medd yr ARGLWYDD;“oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn,a lluniodd gynllun yn eich erbyn.
31 Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal,sy'n byw'n ddiogel,” medd yr ARGLWYDD,“heb ddorau na barrau iddi,a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.
32 Bydd eu camelod yn anrhaith,a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail;gwasgaraf tua phob gwynty rhai sydd â'u talcennau'n foel;o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr,” medd yr ARGLWYDD.
33 “Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid,ac yn anghyfannedd byth;ni fydd neb yn byw ynddi,nac unrhyw un yn aros yno.”
34 Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:
35 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:‘Yr wyf am dorri bwa Elam,eu cadernid pennaf hwy.
36 Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd;gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn;ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.
37 Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynionac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes;dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,’ medd yr ARGLWYDD.‘Gyrraf y cleddyf ar eu hôl,nes i mi eu llwyr ddifetha.
38 A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam,a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,’ medd yr ARGLWYDD.
39 “Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam,” medd yr ARGLWYDD.