1 “Y mae pechod Jwda wedi ei ysgrifennu â phin haearn,a'i gerfio â blaen adamant ar lech eu calon,
2 ac ar gyrn eu hallorau i atgoffa eu plant.Y mae eu hallorau a'u pyst wrth ymyl prennau gwyrddlas ar fryniau uchel,
3 yn y mynydd-dir a'r meysydd.Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,yn bris am dy bechod trwy dy holl derfynau.
4 Gollyngi o'th afael yr etifeddiaeth a roddais i ti,a gwnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân a lysg hyd byth.”
5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn,ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo,ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD.
6 Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch;ni fydd yn gweld daioni pan ddaw.Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch,mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.
7 Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD,a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.
8 Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd,yn gwthio'i wreiddiau i'r afon,heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir;ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid â ffrwytho.
9 “Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim,a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?
10 Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn profi cymhellion,i roi i bawb yn ôl eu ffyrddac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd.”
11 Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd,y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn;yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef,a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.
12 Gorsedd ogoneddus, ddyrchafedig o'r dechreuad,dyna fan ein cysegr ni.
13 O ARGLWYDD, gobaith Israel,gwaradwyddir pawb a'th adawa;torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt,am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.
14 Iachâ fi, O ARGLWYDD, ac fe'm hiacheir;achub fi, ac fe'm hachubir;canys ti yw fy moliant.
15 Ie, dywedant wrthyf,“Ple mae gair yr ARGLWYDD? Deued yn awr!”
16 Ond myfi, ni phwysais arnat i'w drygu,ac ni ddymunais iddynt y dydd blin.Gwyddost fod yr hyn a ddaeth o'm genau yn uniawn ger dy fron.
17 Paid â bod yn ddychryn i mi;fy nghysgod wyt ti yn nydd drygfyd.
18 Gwaradwydder f'erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i;brawycher hwy, ac na'm brawycher i;dwg arnynt hwy ddydd drygfyd,dinistria hwy â dinistr deublyg.
19 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos, a saf ym mhorth Benjamin, yr un y mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan trwyddo, ac yn holl byrth Jerwsalem,
20 a dywed wrthynt, ‘Clywch air yr ARGLWYDD, O frenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl drigolion Jerwsalem sy'n dod trwy'r pyrth hyn.
21 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwyliwch am eich einioes na ddygwch faich ar y dydd Saboth, na'i gludo trwy byrth Jerwsalem;
22 ac na ddygwch faich allan o'ch tai ar y dydd Saboth, na gwneud dim gwaith; ond sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i'ch hynafiaid.
23 Ond ni wrandawsant hwy, na gogwyddo clust, ond ystyfnigo rhag gwrando, a rhag derbyn disgyblaeth.
24 Er hynny, os gwrandewch yn ddyfal arnaf, medd yr ARGLWYDD, a pheidio â dwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio'r dydd Saboth trwy beidio â gwneud dim gwaith arno,
25 yna fe ddaw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion i eistedd ar orsedd Dafydd, ac i deithio mewn cerbydau a marchogaeth ar feirch—hwy a'u tywysogion, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem—a chyfanheddir y ddinas hon hyd byth.
26 A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD.
27 Ac os na wrandewch arnaf a sancteiddio'r dydd Saboth, a pheidio â chludo baich wrth ddod i mewn i byrth Jerwsalem ar y dydd Saboth, yna mi gyneuaf dân yn y pyrth hynny, tân a lysg balasau Jerwsalem, heb neb i'w ddiffodd.’ ”