1 Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglŷn â'r cenhedloedd,
2 am yr Aifft, ynglŷn â lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
3 “Cymerwch fwcled a tharian,ewch yn eich blaen i'r frwydr.
4 Cenglwch y ceffylau,marchogwch y meirch,safwch yn barod, pawb â'i helm,gloywch eich gwaywffyn,gwisgwch eich llurigau.
5 Beth a welaf? Y maent mewn braw,ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn;ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl;dychryn ar bob llaw!” medd yr ARGLWYDD.
6 “Ni all y buan ffoi,na'r cadarn ddianc;tua'r gogledd ar lan yr Ewffratesy baglant ac y syrthiant.
7 “Pwy yw hon sy'n codi fel y Neil,fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor?
8 Yr Aifft sy'n codi fel y Neil,fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor.Ac meddai, ‘Fe godaf a gorchuddio'r ddaear;dinistriaf bob dinas a'i thrigolion.’
9 Ymlaen, chwi feirch;rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel.Allan, chwi wŷr cedyrn—Ethiopiaid a gwŷr Put, sy'n dwyn tarian;gwŷr o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.
10 Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,dydd dialedd i ddial ar ei elynion.Ysa'r cleddyf nes syrffedu;meddwa ar eu gwaed.Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberthyng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.
11 Dos i fyny i Gilead, a chymer falm,O wyryf, ferch yr Aifft;yn ofer y cymeraist gyffuriau lawer,canys ni fydd gwellhad i ti.
12 Fe glyw'r cenhedloedd am dy waradwydd,ac y mae dy waedd yn llenwi'r ddaear;cadarn yn syrthio yn erbyn cadarn,a'r ddau'n cwympo gyda'i gilydd.”
13 Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth y proffwyd Jeremeia pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon ar ddod i daro gwlad yr Aifft:
14 “Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch yn Migdol,hysbyswch yn Noff ac yn Tahpanhes;dywedwch, ‘Saf, a bydd barod,canys y mae cleddyf yn ysu o'th amgylch.’
15 Pam yr ysgubwyd Apis ymaith,a pham na ddaliodd dy darw ei dir?Yr ARGLWYDD a'i bwriodd i lawr.
16 Parodd i luoedd faglu a syrthioy naill yn erbyn y llall.Dywedasant, ‘Cyfodwch,dychwelwn at ein pobl,i wlad ein genedigaeth,rhag cleddyf y gorthrymwr.’
17 Rhowch yn enw ar Pharo brenin yr Aifft,‘Y Broliwr a gollodd ei gyfle’.
18 Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd y Brenin— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw—“fe ddaw, fel Tabor ymhlith y mynyddoedd,a Charmel uwchlaw'r môr.
19 Casgla iti becyn ar gyfer caethglud,ti, drigiannydd yr Aifft;canys bydd Noff yn anghyfannedd;fe'i difethir, a bydd heb breswylydd.
20 “Heffer gyda'r brydferthaf yw'r Aifft,ond daeth cleren o'r gogledd arni.
21 Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanolfel lloi pasgedig;a throesant hwythau hefyd ymaith,a ffoi ynghyd, heb oedi;canys daeth dydd eu gofid arnynt,ac awr eu cosbi.
22 Y mae ei sŵn fel sarff yn hisian,canys daeth y gelyn yn llu,daeth yn ei herbyn â bwyeill;fel rhai yn cymynu coed,
23 torrant i lawr ei choedydd,” medd yr ARGLWYDD.“Canys ni ellir eu rhifo;y maent yn amlach eu rhif na locustiaid,heb rifedi arnynt.
24 Cywilyddir merch yr Aifft,a'i rhoi yng ngafael pobl y gogledd.”
25 Dywedodd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “Byddaf yn cosbi Thebes, a Pharo a'r Aifft, a'i duwiau a'i brenhinoedd, Pharo a'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
26 Rhof hwy yng ngafael y rhai sy'n ceisio'u heinioes, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael ei weision; ac wedi hynny cyfanheddir hi fel o'r blaen,” medd yr ARGLWYDD.
27 “Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni;paid ag arswydo, Israel;canys dyma fi'n dy achub o bell,a'th had o wlad eu caethiwed.Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd;bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
28 Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,” medd yr ARGLWYDD,“canys yr wyf fi gyda thi;gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloeddy gyrrais di atynt;ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.Disgyblaf di mewn barn,ni'th adawaf yn ddi-gosb.”