14 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth.Cywilyddir pob eurych gan ei eilun,canys celwydd yw ei ddelwau tawdd,ac nid oes anadl ynddynt.
15 Oferedd ŷnt, a gwaith i'w wawdio;yn amser eu cosbi fe'u difethir.
16 Nid yw Duw Jacob fel y rhain,oherwydd ef yw lluniwr pob peth,ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
17 Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad,ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.
18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn;dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny.”
19 Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn,ond dywedais, “Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef.”
20 Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd;aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy;nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.