31 Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd,canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd,ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd,ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.”
32 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall;cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.”
33 “Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.”
34 Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch;ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd;canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru,ac fe gwympwch fel llydnod dethol.
35 Collir lloches gan y bugeiliaid,a dihangfa gan bendefigion y praidd.
36 Clyw gri'r bugeiliaid,a nâd pendefigion y praidd!Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;
37 dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.