35 Collir lloches gan y bugeiliaid,a dihangfa gan bendefigion y praidd.
36 Clyw gri'r bugeiliaid,a nâd pendefigion y praidd!Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;
37 dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.
38 Fel llew, gadawodd ei loches;aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr,a llid digofaint yr ARGLWYDD.