7 Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg;dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.
8 Yn y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy.
9 Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.
10 “ ‘A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,’ medd yr ARGLWYDD,‘paid ag arswydo, Israel,canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed.Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
11 Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD;‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith,ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ”
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
13 nid oes neb i ddadlau dy achos;nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur.