15 Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad.
16 Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: ‘Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.’
17 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Ni fydd Dafydd byth heb ŵr yn eistedd ar orsedd tŷ Israel;
18 ac ni fydd yr offeiriaid o Lefiaid byth heb ŵr yn fy ngŵydd yn offrymu poethoffrwm, ac yn offrymu bwydoffrwm, ac yn aberthu.’ ”
19 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
20 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Os gallwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, fel na bydd dydd na nos yn eu pryd,
21 yna gellir diddymu fy nghyfamod â'm gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod â'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.