21 yna gellir diddymu fy nghyfamod â'm gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod â'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.
22 Fel na ellir cyfrif llu'r nefoedd na mesur tywod y môr, felly yr amlhaf epil fy ngwas Dafydd, a'r Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.’ ”
23 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,
24 “Oni sylwaist beth y mae'r bobl hyn yn ei lefaru, gan ddweud, ‘Y mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau dylwyth a ddewisodd’? Felly y dirmygant fy mhobl, ac nid ydynt mwyach yn genedl yn eu gŵydd.
25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan fydd fy nghyfamod â'r dydd a'r nos yn peidio â sefyll, a threfn y nefoedd a'r ddaear,
26 yna gwrthodaf gymryd rhai o had Jacob, a'm gwas Dafydd, i lywodraethu ar had Abraham ac Isaac a Jacob. Adferaf hwy, a byddaf drugarog wrthynt.’ ”