25 Ond os clyw'r swyddogion i mi ymddiddan â thi, a dod atat a dweud wrthyt, ‘Mynega i ni beth a draethodd y brenin wrthyt ti, a beth a ddywedaist wrth y brenin; paid â chelu dim oddi wrthym, ac ni'th roddwn i farwolaeth’,
26 yna dywedi wrthynt, ‘Yr oeddwn yn gwneud cais yn ostyngedig i'r brenin, ar iddo beidio â'm gyrru'n ôl i dŷ Jonathan i farw yno.’ ”
27 Pan ddaeth yr holl swyddogion at Jeremeia, a'i holi, mynegodd ef iddynt bob peth yn ôl gorchymyn y brenin. A pheidiasant â'i holi ragor, ac ni chlywyd am y neges.
28 Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr hyd y dydd y syrthiodd Jerwsalem, ac yr oedd yno pan syrthiodd Jerwsalem.