5 Canys dringant riw Luhithdan wylo'n chwerw;ac ar lechwedd Horonaimclywir cri ddolefus dinistr.
6 Ffowch, dihangwch am eich einioes,fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.
7 “Am i ti ymddiried yn dy weithredoedda'th drysorau dy hun,cei dithau hefyd dy ddal;â Cemos i ffwrdd i gaethglud,ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.
8 Daw'r anrheithiwr i bob dinas,ni ddihanga un ohonynt;derfydd am y dyffryn, difwynir y gwastadedd,fel y dywed yr ARGLWYDD.
9 Rhowch garreg fedd ar Moab,canys difodwyd hi'n llwyr;gwnaed ei dinasoedd yn anghyfannedd,heb breswylydd ynddynt.
10 Melltith ar y sawl sy'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD yn ddi-sut,melltith ar bwy bynnag sy'n atal ei gleddyf rhag gwaed.
11 “Bu'n esmwyth ar Moab erioed;gorffwysodd fel gwin ar ei waddod;nis tywalltwyd o lestr i lestr;nid aeth hi i gaethiwed.Felly y cadwodd ei blas,ac ni newidiodd ei sawr.