3 Na thynned y saethwr ei fwa,na gwisgo'i lurig.Peidiwch ag arbed ei gwŷr ifainc,difethwch yn llwyr ei holl lu.
4 Syrthiant yn farw yn nhir y Caldeaid,wedi eu trywanu yn ei heolydd hi.
5 Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddwgan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd;ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwyddyn erbyn Sanct Israel.
6 Ffowch o ganol Babilon,achubed pob un ei hunan.Peidiwch â chymryd eich difetha gan ei drygioni hi,canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD;y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.
7 Cwpan aur oedd Babilon yn llaw'r ARGLWYDD,yn meddwi'r holl ddaear;byddai'r cenhedloedd yn yfed o'i gwin,a'r cenhedloedd felly'n mynd yn ynfyd.
8 Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi;udwch drosti!Cymerwch falm i'w dolur,i edrych a gaiff hi ei hiacháu.
9 Ceisiem iacháu Babilon, ond ni chafodd ei hiacháu;gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad.Canys cyrhaeddodd ei barnedigaeth i'r nefoedd,a dyrchafwyd hi hyd yr wybren.