1 Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud,
2 “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un.
3 Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
4 Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu.
5 Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur;
6 o Simeon: Selumiel fab Surisadai;
7 o Jwda: Nahson fab Amminadab;
8 o Issachar: Nethanel fab Suar;
9 o Sabulon: Eliab fab Helon.
10 O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur;
11 o Benjamin: Abidan fab Gideoni;
12 o Dan: Ahieser fab Ammisadai;
13 o Aser: Pagiel fab Ocran;
14 o Gad: Eliasaff fab Reuel;
15 o Nafftali: Ahira fab Enan.”
16 Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.
17 Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,
18 ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.
19 Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20 O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
21 Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
22 O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
23 Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.
24 O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
25 Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.
26 O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
27 Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
28 O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
29 Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
30 O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
31 Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.
32 O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
33 Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant.
34 O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
35 Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant.
36 O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
37 Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant.
38 O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
39 Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
40 O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
41 Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant.
42 O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
43 Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant.
44 Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tŷ ei hynafiaid.
45 Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn ôl eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel;
46 y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
47 Ond ni rifwyd y Lefiaid yn ôl llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel,
48 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
49 “Paid â chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel;
50 ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch.
51 Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl.
52 Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn ôl eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun.
53 Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid.”
54 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.