Numeri 34 BCND

Terfynau'r Wlad

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Gorchymyn bobl Israel, a dywed wrthynt, ‘Pan fyddwch yn mynd i mewn i wlad Canaan, bydd terfynau'r wlad a gewch yn etifeddiaeth fel a ganlyn:

3 i'r de bydd yn ymestyn o anialwch Sin a heibio i Edom, ac yn y dwyrain bydd eich terfyn deheuol yn ymestyn o ben draw Môr yr Heli,

4 ac yn troi o lethrau Acrabbim a throsodd i Sin, ac yna i'r de o Cades-barnea; oddi yno â ymlaen i Hasar-adar a throsodd i Asmon;

5 yna fe dry'r terfyn o Asmon at nant yr Aifft, a gorffen wrth y môr.

6 “ ‘I'r gorllewin, y terfyn fydd y Môr Mawr a'r arfordir; hwn fydd eich terfyn gorllewinol.

7 “ ‘Dyma fydd eich terfyn i'r gogledd: tynnwch linell o'r Môr Mawr i Fynydd Hor,

8 ac o Fynydd Hor i Lebo-hamath; bydd y terfyn yn cyrraedd hyd Sedad,

9 yna'n ymestyn i Siffron, a gorffen yn Hasar-enan; dyma fydd eich terfyn gogleddol.

10 “ ‘Ar ochr y dwyrain, tynnwch linell o Hasar-enan i Seffan;

11 fe â'r terfyn i lawr o Seffan i Ribla, i'r dwyrain o Ain, ac yna i lawr ymhellach ar hyd y llechweddau i'r dwyrain o Fôr Cinnereth;

12 yna fe â'r terfyn i lawr ar hyd yr Iorddonen, a gorffen wrth Fôr yr Heli. Hon fydd eich gwlad, a'r rhain fydd ei therfynau oddi amgylch.’ ”

13 Rhoddodd Moses orchymyn i bobl Israel, a dweud, “Dyma'r wlad yr ydych i'w rhannu'n etifeddiaeth trwy goelbren, a'i rhoi i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD;

14 y mae llwythau teuluoedd meibion Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn eu hetifeddiaeth;

15 derbyniodd y ddau lwyth a hanner eu hetifeddiaeth hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, tua chodiad haul.”

Rhannu'r Etifeddiaeth

16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17 “Dyma enwau'r dynion sydd i rannu'r wlad yn etifeddiaeth i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua fab Nun.

18 Cymerwch hefyd un pennaeth o bob llwyth i rannu'r wlad yn etifeddiaeth.

19 Dyma eu henwau: o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne;

20 o lwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud;

21 o lwyth Benjamin, Elidad fab Cislon;

22 o lwyth meibion Dan, y pennaeth fydd Bucci fab Jogli;

23 o feibion Joseff: o lwyth meibion Manasse, y pennaeth fydd Haniel fab Effad;

24 o lwyth meibion Effraim, y pennaeth fydd Cemuel fab Sifftan;

25 o lwyth meibion Sabulon, y pennaeth fydd Elisaffan fab Parnach;

26 o lwyth meibion Issachar, y pennaeth fydd Paltiel fab Assan;

27 o lwyth meibion Aser, y pennaeth fydd Ahihud fab Salomi;

28 o lwyth meibion Nafftali, y pennaeth fydd Pedahel fab Ammihud.

29 Dyma'r dynion y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt rannu'r etifeddiaeth i bobl Israel yng ngwlad Canaan.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36