Numeri 24 BCND

1 Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.

2 Cododd ei olwg a gweld yr Israeliaid yn gwersyllu yn ôl eu llwythau. Yna daeth ysbryd Duw arno,

3 a llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

4 ac sy'n clywed geiriau Duw,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

5 Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,a'th wersylloedd, O Israel!

6 Y maent yn ymestyn fel palmwydd,fel gerddi ar lan afon,fel aloewydd a blannodd yr ARGLWYDD,fel cedrwydd wrth ymyl dyfroedd.

7 Tywelltir dŵr o'i ystenau,a bydd digon o ddŵr i'w had.Bydd ei frenin yn uwch nag Agag,a dyrchefir ei frenhiniaeth.

8 Daeth Duw ag ef allan o'r Aifft,ac yr oedd ei nerth fel nerth ych gwyllt;bydd yn traflyncu'r cenhedloedd sy'n elynion iddo,gan ddryllio eu hesgyrn yn ddarnau,a'u gwanu â'i saethau.

9 Pan gryma, fe orwedd fel llew,neu lewes; pwy a'i deffry?Bydded bendith ar bawb a'th fendithia,a melltith ar bawb a'th felltithia.”

10 Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, “Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.

11 Felly ffo yn awr i'th le dy hun; addewais dy anrhydeddu, ond fe gadwodd yr ARGLWYDD yr anrhydedd oddi wrthyt.”

12 Dywedodd Balaam wrth Balac, “Oni ddywedais wrth y negeswyr a anfonaist ataf,

13 ‘Pe rhoddai Balac imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allwn fynd yn groes i air yr ARGLWYDD a gwneud na da na drwg o'm hewyllys fy hun; rhaid imi lefaru'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD’?

14 Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol.”

Pedwaredd Neges Balaam

15 Yna llefarodd ei oracl a dweud:“Gair Balaam fab Beor,gair y gŵr yr agorir ei lygaid

16 ac sy'n clywed geiriau Duw,yn gwybod meddwl y Goruchaf,yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog,ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor:

17 Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr;edrychaf arno, ond nid yw'n agos.Daw seren allan o Jacob,a chyfyd teyrnwialen o Israel;fe ddryllia dalcen Moab,a difa holl feibion Seth.

18 Bydd Edom yn cael ei meddiannu,bydd Seir yn feddiant i'w gelynion,ond bydd Israel yn gweithredu'n rymus.

19 Daw llywodraethwr allan o Jacoba dinistrio'r rhai a adawyd yn y dinasoedd.”

Negesau Olaf Balaam

20 Yna edrychodd ar Amalec, a llefarodd ei oracl a dweud:“Amalec oedd y blaenaf ymhlith y cenhedloedd,ond caiff yntau, yn y diwedd, ei ddinistrio.”

21 Yna edrychodd ar y Cenead, a llefarodd ei oracl a dweud:“Y mae dy drigfan yn gadarn,a'th nyth yn ddiogel mewn craig;

22 eto bydd Cain yn cael ei anrheithio.Am ba hyd y bydd Assur yn dy gaethiwo?”

23 Llefarodd ei oracl a dweud:“Och! Pwy fydd byw pan wna Duw hyn?

24 Daw llongau o gyffiniau Chittim,gan orthrymu Assur ac Eber;cânt hwythau hefyd eu dinistrio.”

25 Yna cododd Balaam a dychwelodd adref, ac aeth Balac hefyd ymaith.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36