1 Aeth Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, gyda'r Reubeniaid Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ac On fab Peleth, i gynnull dynion
2 i godi yn erbyn Moses; gyda hwy yr oedd dau gant a hanner o bobl Israel, a'r rheini'n wŷr adnabyddus o blith penaethiaid ac arweinwyr y cynulliad.
3 Wedi iddynt ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, dywedasant wrthynt, “Yr ydych wedi cymryd gormod arnoch eich hunain. Y mae pob un o'r holl gynulliad yn sanctaidd, ac y mae'r ARGLWYDD gyda hwy; pam felly yr ydych chwi yn eich dyrchafu eich hunain uwchlaw cynulliad yr ARGLWYDD?”
4 Pan glywodd Moses hyn, syrthiodd ar ei wyneb,
5 a dywedodd wrth Cora a'i holl gwmni, “Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn datguddio pwy sy'n eiddo iddo ef, pwy sy'n sanctaidd, a phwy sy'n cael dynesu ato; pwy bynnag y bydd ef yn ei ddewis fydd yn cael dynesu ato.
6 Dyma yr ydych i'w wneud: yr wyt ti, Cora, a'th holl gwmni i gymryd thuserau;
7 ac yfory, gerbron yr ARGLWYDD, rhowch dân ynddynt a gosodwch arogldarth arnynt, a'r un a ddewisa'r ARGLWYDD fydd yn sanctaidd. Yr ydych chwi, feibion Lefi, wedi cymryd gormod arnoch eich hunain.”
8 Dywedodd Moses hefyd wrth Cora, “Gwrandewch, feibion Lefi.
9 Ai peth dibwys yn eich golwg yw fod Duw Israel wedi eich neilltuo chwi o blith cynulliad Israel, ichwi ddynesu ato a gwasanaethu yn nhabernacl yr ARGLWYDD a sefyll o flaen y cynulliad a gweini arnynt?
10 Y mae wedi caniatáu i ti a'th holl frodyr, meibion Lefi, ddynesu ato; a ydych am geisio bod yn offeiriaid hefyd?
11 Yr wyt ti a'th holl gwmni wedi ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD; pam, felly, yr ydych yn grwgnach yn erbyn Aaron?”
12 Yna galwodd Moses am Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ond dywedasant hwy, “Nid ydym am ddod.
13 Ai peth dibwys yw dy fod wedi dod â ni allan o wlad yn llifeirio o laeth a mêl, i'n lladd yn yr anialwch? A wyt hefyd am dy osod dy hun yn bennaeth arnom?
14 Yn wir, ni ddaethost â ni i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, na rhoi inni faes na gwinllan yn feddiant. A wyt am ddallu'r dynion hyn? Nid ydym am ddod.”
15 Yr oedd Moses yn ddig iawn, a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Paid ag edrych ar eu hoffrwm. Ni chymerais gymaint ag un asyn oddi arnynt, ac nid wyf wedi gwneud cam â'r un ohonynt.”
16 Dywedodd Moses wrth Cora, “Yr wyt ti a'th holl gwmni ac Aaron i fod yn bresennol gerbron yr ARGLWYDD yfory.
17 Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod â thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt.”
18 Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod;
19 ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad.
20 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
21 “Ymwahanwch oddi wrth y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.”
22 Ond syrthiasant hwy ar eu hwynebau, a dweud, “O Dduw, Duw ysbryd pob cnawd, a wyt am ddigio wrth yr holl gynulliad am fod un dyn wedi pechu?”
23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24 “Dywed wrth y cynulliad am fynd ymaith oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram.”
25 Cododd Moses ac aeth at Dathan ac Abiram, a dilynodd henuriaid Israel ef.
26 Yna dywedodd wrth y cynulliad, “Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch â chyffwrdd â dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy.”
27 Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll.
28 Dywedodd Moses, “Cewch wybod trwy hyn mai'r ARGLWYDD a'm hanfonodd i wneud yr holl bethau hyn, ac nad o'm dyfais fy hun y gwneuthum hwy.
29 Os bydd y dynion hyn farw'n naturiol, a phrofi'r un ffawd ag sy'n dod yn arferol i bobl, yna nid yw'r ARGLWYDD wedi fy anfon.
30 Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD.”
31 Fel yr oedd yn gorffen dweud hyn i gyd, holltodd y tir odanynt,
32 ac agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a'u tylwyth, a holl ddynion Cora a'u heiddo i gyd.
33 Felly disgynasant hwy, a phawb oedd gyda hwy, yn fyw i Sheol; yna caeodd y ddaear amdanynt, a difawyd hwy o blith y cynulliad.
34 Wrth iddynt weiddi, ffodd yr holl Israeliaid oedd o'u hamgylch, gan ddweud, “Rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau!”
35 Yna daeth tân oddi wrth yr ARGLWYDD a difa'r ddau gant a hanner o ddynion oedd yn offrymu arogldarth.
36 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
37 “Dywed wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad am godi'r thuserau allan o'r goelcerth, am eu bod yn sanctaidd, a thaenu'r tân ar wasgar;
38 yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel.”
39 Yna cymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a offrymwyd gan y rhai a gafodd eu llosgi, ac fe'u curwyd i wneud caead i'r allor,
40 i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.
41 Trannoeth dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dweud, “Yr ydych wedi lladd pobl yr ARGLWYDD.”
42 Ac wedi i'r cynulliad ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, troesant at babell y cyfarfod a gwelsant gwmwl yn ei gorchuddio a gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos.
43 Yna daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod,
44 a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45 “Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith.” Syrthiasant ar eu hwynebau,
46 a dywedodd Moses wrth Aaron, “Cymer thuser, a rho ynddo dân oddi ar yr allor, a gosod arno arogldarth, a dos rhag blaen at y cynulliad, a gwna gymod drostynt; daeth digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae'r pla wedi dechrau.”
47 Gwnaeth Aaron fel yr oedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y cynulliad, ond gwelodd fod y pla eisoes wedi dechrau ymhlith y bobl. Rhoddodd arogldarth ar y thuser, a gwnaeth gymod dros y bobl.
48 Safodd rhwng y meirw a'r byw, ac fe beidiodd y pla.
49 Bu farw pedair mil ar ddeg a saith gant trwy'r pla, heblaw'r rhai a fu farw o achos Cora.
50 Yna, wedi i'r pla beidio, aeth Aaron yn ôl at Moses yn nrws pabell y cyfarfod.