14 “ ‘Os bydd yn eich plith, dros eich cenedlaethau, ddieithriaid neu eraill yn dymuno offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, y maent i ddilyn yr hyn yr ydych chwi yn ei wneud.
15 Un ddeddf fydd i'r cynulliad ac i'r dieithryn yn eich plith, ac y mae'r ddeddf honno i'w chadw trwy eich cenedlaethau; yr ydych chwi a'r dieithryn yn un gerbron yr ARGLWYDD.
16 Un gyfraith ac un rheol fydd i chwi ac i'r dieithryn a fydd gyda chwi.’ ”
17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi ichwi ddod i mewn i'r wlad yr wyf yn eich arwain iddi,
19 a bwyta o gynnyrch y tir, yr ydych i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD.
20 Offrymwch deisen wedi ei gwneud o'r toes cyntaf y byddwch yn ei baratoi, a chyflwynwch hi'n offrwm o'r llawr dyrnu.