24 ac os gwnaethoch hyn yn anfwriadol, a'r cynulliad heb fod yn gwybod amdano, yna y mae'r holl gynulliad i offrymu bustach ifanc yn boethoffrwm, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, gyda'i fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm, a hefyd bwch gafr yn aberth dros bechod, yn unol â'r ddeddf.
25 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros gynulliad pobl Israel, ac fe faddeuir iddynt am mai mewn camgymeriad y gwnaethant hyn, ac am iddynt ddwyn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD a chyflwyno iddo aberth dros bechod.
26 Fe faddeuir i holl gynulliad pobl Israel ac i'r dieithryn sy'n byw yn eu plith, gan fod pawb yn gyfrifol am y camgymeriad.
27 “ ‘Os bydd unigolyn yn pechu'n anfwriadol, y mae i offrymu gafr flwydd yn aberth dros bechod.
28 Bydd yr offeiriad yn gwneud cymod gerbron yr ARGLWYDD dros yr un a bechodd yn anfwriadol mewn camgymeriad, ac fe faddeuir iddo.
29 Pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth yn anfwriadol, yna yr un gyfraith a weithredir p'run bynnag a yw'n frodor o Israel neu'n ddieithryn sy'n byw yn eu plith.
30 Ond pan fydd rhywun yn gweithredu'n rhyfygus, boed yn frodor neu'n ddieithryn, y mae'n cablu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.