16 Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
17 “Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
18 “Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,
19 a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant.
20 Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse,
21 a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
22 Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,