12 Yna daethant â'r carcharorion, yr ysbail a'r anrhaith at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at gynulliad pobl Israel oedd yn gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.
13 Aeth Moses, Eleasar yr offeiriad, a holl arweinwyr y cynulliad i'w cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.
14 Ond digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a oedd wedi dychwelyd ar ôl brwydro yn y rhyfel,
15 a dywedodd wrthynt, “A ydych wedi arbed yr holl ferched?
16 Dyma'r rhai, ar orchymyn Balaam, a wnaeth i bobl Israel fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD yn yr achos ynglŷn â Peor, pan ddaeth pla i ganol cynulliad yr ARGLWYDD.
17 Yn awr, lladdwch bob bachgen ifanc, a phob merch sydd wedi cael cyfathrach rywiol gyda dyn,
18 ond arbedwch i chwi eich hunain bob geneth ifanc nad yw wedi bod gyda dyn.