40 yr oedd un fil ar bymtheg o bobl, a thri deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD.
41 Rhoddodd Moses y dreth, sef yr offrwm i'r ARGLWYDD, i Eleasar yr offeiriad, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
42 Yr oedd y rhan nad oedd yn eiddo i'r rhyfelwyr (sef yr hanner a rannodd Moses i'r Israeliaid,
43 yn eiddo i'r cynulliad), yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
44 tri deg chwech o filoedd o eidionau,
45 tri deg o filoedd a phum cant o asynnod,
46 ac un fil ar bymtheg o bobl.