5 Yn y cyfamser yr oedd Anna'n eistedd, yn cadw llygad ar y ffordd yr aeth ei mab;
6 gwelodd ef yn dod, a dyma hi'n dweud wrth ei dad, “Y mae dy fab ar y ffordd, a'i gydymaith gydag ef.”
7 Cyn i Tobias ddod yn agos at ei dad, meddai Raffael wrtho, “Rwy'n berffaith siŵr y caiff ei olwg yn ôl.
8 Taena fustl y pysgodyn ar ei lygaid; bydd yr eli'n achosi i'r smotiau gwyn grebachu a syrthio i ffwrdd oddi ar ei lygaid. Yna caiff dy dad ei olwg yn ôl, a gweld golau dydd.”
9 A dyma Anna'n rhedeg at ei mab ac yn ei gofleidio. “Cefais dy weld, fy machgen,” meddai wrtho. “Rwy'n barod i farw yn awr.” A thorrodd i wylo.
10 Ar hynny cododd Tobit ar ei draed, a baglodd allan trwy ddrws y cyntedd.
11 Cerddodd Tobias ato â bustl y pysgodyn yn ei law; chwythodd ar ei lygaid, a chan afael yn dynn ynddo dywedodd, “Paid ag ofni, fy nhad.”