Tobit 12 BCND

Yr Angel Raffael

1 Wedi i'r dathlu ddod i ben, galwodd Tobit Tobias ei fab ato a dweud, “Fy machgen, cofia dalu ei gyflog i'r gŵr a fu'n gydymaith iti, a rho rywbeth ar ben ei gyflog iddo.”

2 “Fy nhad,” gofynnodd yntau, “pa faint o gyflog yr wyf i'w roi iddo? Ni welwn eu heisiau pe rhown iddo hanner y meddiannau y bu'n gymorth imi ddod â hwy adref.

3 Fe'm cadwodd yn ddiogel, rhoes iachâd i'm gwraig; bu'n gymorth imi ddod â'r arian, a rhoes iachâd i tithau. Pa faint o gyflog ychwanegol a roddaf iddo?”

4 Atebodd Tobit fel hyn: “Y mae'n deg iddo gael hanner y cwbl a ddygodd yn ôl, fy machgen.”

5 Galwodd ef ato, felly, a dweud, “Cymer hanner y cwbl a ddygaist yn ôl. Dyna dy gyflog, a dos mewn tangnefedd.”

6 Yna galwodd Raffael y ddau o'r neilltu a dweud wrthynt, “Bendithiwch Dduw, ac am y daioni a gawsoch ganddo clodforwch ef gerbron pob un byw, er mwyn iddynt ei fendithio a moliannu ei enw. Cyhoeddwch weithredoedd Duw i bawb gyda phob dyledus glod, a pheidiwch ag ymatal rhag ei glodfori.

7 Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u canmol, gyda phob dyledus glod. Gwnewch ddaioni, ac ni ddaw drygioni ar eich cyfyl.

8 Gwell gweddi ddiffuant ac elusen gyfiawn na chyfoeth anghyfiawn; gwell rhoi elusen na phentyrru cyfoeth,

9 oherwydd y mae elusen yn achub rhag marwolaeth ac yn glanhau pob pechod.

10 Bydd y rhai sy'n rhoi elusen yn mwynhau bywyd yn ei gyflawnder, ond gelynion iddynt hwy eu hunain yw'r rheini sy'n euog o bechod ac anghyfiawnder.

11 ‘Mynegaf y gwir cyfan i chwi, heb guddio dim oddi wrthych. Yr wyf eisoes wedi ei fynegi i chwi pan ddywedais: “Da yw cadw cyfrinach brenin, ond rhaid datguddio gweithredoedd Duw a'u clodfori.”

12 Yn awr, pan weddïaist ti, Tobit, a Sara hithau, myfi a gyflwynodd eich gweddïau gerbron gogoniant yr Arglwydd; a'r un modd wrth iti gladdu'r meirw:

13 y noson y codaist o'r bwrdd swper yn ddibetrus i fynd i gladdu'r corff marw, yr adeg honno fe'm hanfonwyd atat i'th roi di ar brawf.

14 Dyna'r adeg hefyd yr anfonodd Duw fi i ddwyn iachâd i ti ac i Sara, dy ferch-yng-nghyfraith.

15 Myfi yw Raffael, un o'r saith angel sy'n sefyll wrth ymyl yr Arglwydd ac yn cael mynd i mewn gerbron ei ogoniant.’

16 Syfrdanwyd y ddau, a syrthiasant ar eu hwynebau mewn dychryn,

17 ond dywedodd ef wrthynt, ‘Peidiwch ag ofni. Tangnefedd i chwi! Bendithiwch Dduw am byth.

18 I mi fod yn eich plith, nid i mi y mae'r diolch am hynny, ond i ewyllys Duw; ef, gan hynny, sydd i gael eich clod holl ddyddiau eich bywyd; ef sydd i gael eich mawl.

19 Sylwch ar hyn amdanaf, na chymerais ddim i'w fwyta; ni welsoch chwi namyn rhith.

20 Yn awr, felly, bendithiwch yr Arglwydd ar y ddaear, a chlodforwch Dduw. Ond yr wyf fi'n esgyn at yr hwn a'm hanfonodd. Rhowch mewn ysgrifen yr holl bethau hyn a ddigwyddodd i chwi.’

21 Yna fe esgynnodd. Codasant ar eu traed, ond ni allent ei weld ef mwyach.

22 A dechreusant fendithio Duw a chanu mawl iddo a'i glodfori am y gweithredoedd mawr hyn o'i eiddo, pan ymddangosodd angel Duw iddynt.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14