Tobit 6 BCND

Tobias yn Dal Pysgodyn

1 Cychwynnodd y bachgen ar ei daith, a'r angel gydag ef; aeth y ci hefyd yn gydymaith iddynt. Aethant yn eu blaen ill dau nes i'r nos eu dal, a threuliasant y noson gyntaf honno ar lan Afon Tigris.

2 Aeth y bachgen i lawr i olchi ei draed yn Afon Tigris, a dyma bysgodyn mawr yn neidio allan o'r dŵr gan geisio llyncu troed y bachgen.

3 Gwaeddodd y bachgen, ond meddai'r angel wrtho, “Gafael yn y pysgodyn a chydia'n dynn ynddo.” Cafodd y bachgen y trechaf ar y pysgodyn a'i dynnu i'r lan.

4 “Hollta'r pysgodyn,” meddai'r angel wrtho, “a thyn allan ei fustl, ei galon a'i afu, a'u cadw gyda thi, ond tafla'r perfedd i ffwrdd; oherwydd y mae i'r bustl, y galon a'r afu eu defnydd fel meddyginiaeth.”

5 Holltodd y bachgen y pysgodyn, felly, a chasglu'r bustl, y galon a'r afu. Yna ffriodd ddarn o'r pysgodyn a'i fwyta, a chadw'r gweddill wedi ei halltu. Teithiodd y ddau ymlaen gyda'i gilydd nes iddynt ddod yn agos i Media.

6 Yna holodd y bachgen yr angel: “Asarias, fy mrawd,” meddai wrtho, “beth yw'r feddyginiaeth sydd gan galon y pysgodyn, a'i afu a'i fustl?”

7 Atebodd yntau, “Os llosgi di galon ac afu pysgodyn o flaen gŵr neu wraig a flinir gan gythraul neu ysbryd drwg, bydd y mwg yn peri i bob blinder gilio oddi wrthynt, ac ni chaiff y cythreuliaid feddiant arnynt byth mwy.

8 A'r bustl, os eneini lygaid unrhyw un ag ef pan fydd smotiau gwyn wedi ymdaenu drostynt, ac os chwythi ar y smotiau gwyn, daw'r llygaid yn holliach.”

Cyrraedd Media

9 Wedi iddo fynd i mewn i Media, ac yntau erbyn hyn ar fin cyrraedd Ecbatana,

10 dywedodd Raffael wrth y bachgen, “Tobias, fy mrawd.” “Dyma fi,” atebodd yntau. “Rhaid inni letya heno yn nhŷ Ragwel, sy'n berthynas iti,” meddai wrtho. “Y mae ganddo ferch o'r enw Sara. Nid oes ganddo blentyn, na mab na merch, ar wahân i Sara yn unig,

11 a thi yw ei pherthynas agosaf, ac yn meddu'r hawl i'w chael yn etifeddiaeth rhagor undyn arall, a'r hawl hefyd i etifeddu holl eiddo ei thad.

12 Y mae hi'n ferch gall a dewr ac eithriadol brydferth, a'i thad yn ddyn nobl.” Ychwanegodd, “Y mae'n iawn i ti ei chael hi'n wraig. Gwrando arnaf, felly, fy mrawd. Siaradaf â'i thad heno am y ferch, er mwyn inni ei chael hi'n ddyweddi iti. A phan ddychwelwn o Rhages cawn ddathlu ei phriodas. Y mae gennyf wybodaeth sicr na all Ragwel ei gwrthod i ti, na'i dyweddïo i neb arall, gan y byddai felly yn haeddu marwolaeth yn ôl dyfarniad llyfr Moses, oherwydd y mae'n gwybod mai braint i ti rhagor undyn arall yw etifeddu ei ferch yn wraig. Gwrando arnaf yn awr, fy mrawd. Cawn siarad am y ferch heno, a'i dyweddïo i ti, a phan ddychwelwn o Rhages fe'i cymerwn hi'n wraig iti a mynd â hi'n ôl gyda ni i'th gartref.”

13 Ond atebodd Tobias Raffael fel hyn: “Asarias, fy mrawd, clywais ei bod hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn barod, a'u bod wedi marw yn yr ystafell briodas, bob un. Y noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi byddent farw.

14 Clywais sôn mai cythraul oedd yn eu lladd. Y mae arnaf ofn rhag i minnau farw. Er nad yw'r cythraul yn gwneud dim niwed iddi hi, y mae'n lladd unrhyw un a gais ddod yn agos ati. A minnau'n unig blentyn fy nhad, y mae arnaf ofn dwyn bywyd fy nhad a'm mam i'r bedd o alar amdanaf, a hwythau heb fab arall i'w claddu.”

15 Ond dyma Raffael yn gofyn iddo, “Onid wyt ti'n cofio gorchmynion dy dad, pan ddywedodd wrthyt am briodi gwraig o blith teulu dy dad? Gwrando yn awr, felly, fy mrawd, a phaid â phryderu ynghylch y cythraul hwn. Prioda hi. Rwy'n gwybod y bydd hi heno yn cael ei rhoi'n wraig iti.

16 Ond pan ei di i mewn i'r ystafell briodas, cymer ddarn o afu'r pysgodyn a'i galon, a'u taenu ar farwor offrwm yr arogldarth.

17 Bydd yr arogl yn codi a'r cythraul yn ei glywed ac yn ffoi. Ni ddaw llun ohono ar ei chyfyl hi byth mwy. A phan fyddi di ar glosio ati yn y gwely, codwch eich dau yn gyntaf a gweddïwch. Deisyfwch ar Arglwydd y nef ar iddo fod yn drugarog wrthych a'ch gwaredu. Paid ag ofni. Y mae hi wedi ei harfaethu i ti cyn dechrau'r byd. Ti sydd i'w hachub hi, er mwyn iddi fod yn gydymaith iti. Diau y cei blant ohoni hi, a byddant fel brodyr iti. Paid â phryderu.” Ar ôl i Tobias glywed geiriau Raffael, ei bod hi'n berthynas iddo, yn hanu o deulu ei dad, ymserchodd yn ddwfn ynddi a rhoi ei galon yn llwyr iddi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14