Tobit 3 BCND

Gweddi Tobit

1 Daeth trallod mawr arnaf, gan beri imi ochneidio ac wylo, ac yn fy nghyfyngder dechreuais weddïo fel hyn:

2 “Cyfiawn wyt ti, Arglwydd, a chyfiawn yw dy holl weithredoedd; trugarog wyt, a chywir yn dy holl ffyrdd; ti sy'n barnu'r byd.

3 Cofia fi yn awr, Arglwydd, ac edrych arnaf. Paid â'm cosbi am y pechodau ac am y camweddau diarwybod yr wyf fi a'm hynafiaid yn euog ohonynt.

4 Yr wyf wedi pechu ger dy fron ac wedi anwybyddu dy orchmynion. Traddodaist ni, felly, i anrhaith a chaethiwed a marwolaeth, ac i fod yn ddihareb ac yn destun siarad a chyff gwawd i'r holl genhedloedd y gwasgeraist ni i'w plith.

5 Yn wir, cywir yw dy aml farnedigaethau wrth fynnu rhoi cosb arnaf am fy mhechodau, oherwydd nid ydym wedi cadw dy orchmynion na rhodio'n gywir yn dy olwg di.

6 Yn awr, felly, gwna â mi yn ôl dy ddymuniad. Gorchymyn gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, imi gael fy ngollwng yn rhydd oddi ar wyneb y ddaear a'm troi yn bridd; oherwydd marw sydd fuddiol i mi, nid byw, am i mi glywed geiriau o sen celwyddog, er mawr ofid imi. Arglwydd, rho orchymyn i mi gael rhyddhad o'r cyfyngder hwn; gad imi ddianc i'r orffwysfa dragwyddol, a phaid â throi dy wyneb oddi wrthyf, Arglwydd. Oherwydd gwell i mi farw na chael bywyd o flinder mawr a gwrando ar y fath sen.”

Gofid Sara, a'i Gweddi

7 Y diwrnod hwnnw digwyddodd i Sara, merch Ragwel, o Ecbatana yn Media orfod gwrando ar sen gan un o forynion ei thad.

8 Yn awr yr oedd hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn eu tro, ond fe'u lladdwyd bob un gan Asmodeus, yr ysbryd drwg, cyn iddynt gael cydorwedd â hi fel sy'n briodol i ŵr a gwraig. Ond dywedodd y forwyn wrthi, “Ti yw llofrudd dy wŷr. Er gwaethaf dy roi mewn priodas i saith o wŷr bellach, ni chefaist enw'r un ohonynt.

9 Pam yr wyt ti'n ein cosbi ni am fod dy wŷr wedi marw? Dos i gadw cwmni â hwy. Gobeithio na welwn na mab na merch i ti byth.”

10 Bu hyn yn ofid calon iddi y diwrnod hwnnw. Yn ei dagrau aeth i fyny i oruwchystafell ei thad gyda'r bwriad o'i chrogi ei hun. Ond dechreuodd ailfeddwl a dweud, “Ni chânt fyth fwrw sen ar fy nhad a dweud wrtho, ‘Un ferch, a honno'n annwyl, oedd i ti, ond fe'i crogodd ei hun o achos ei helbulon.’ Byddai'r fath weithred yn ddigon i ddwyn fy nhad oedrannus i'r bedd o dristwch. Mwy buddiol i mi fydd peidio â'm crogi fy hun, ond gweddïo ar i'r Arglwydd ganiatáu imi farw, rhag imi ddioddef sen byth eto yn ystod fy mywyd.”

11 Aeth ar unwaith at y ffenestr, â'i dwylo ar led, a gweddïo fel hyn: “Bendigedig wyt ti, Dduw trugarog, a bendigedig fydd dy enw yn oes oesoedd; bydded i'th holl greadigaeth dy fendithio am byth.

12 Dyma fi wedi codi fy ngolwg a'm llygaid tuag atat;

13 gorchymyn fy ngollwng o'r ddaear, imi beidio â dioddef y fath sen byth eto.

14 Gwyddost, Arglwydd, fy mod yn lân o unrhyw aflendid gyda gŵr;

15 nid wyf wedi halogi fy enw i nac enw fy nhad yn nhir fy nghaethiwed. Myfi yw unig ferch fy nhad; nid oes ganddo blentyn arall i fod yn etifedd iddo, na brawd wrth law, na pherthynas i mi fy nghadw fy hun i fod yn wraig iddo. Eisoes yr wyf wedi colli saith gŵr; pa bwrpas, felly, sydd i mi ddal i fyw? Ond, os nad yw'n rhyngu bodd i ti ganiatáu i mi farw, Arglwydd, tro dy sylw trugarog at y sen a fwriwyd arnaf.”

Duw yn Gwrando Gweddïau Tobit a Sara

16 Ar yr union adeg honno, fe glywyd gweddi'r ddau gan Dduw yn ei ogoniant,

17 ac anfonwyd Raffael i adfer y ddau: adfer Tobit, trwy symud y smotiau gwyn oddi ar ei lygaid, iddo gael gweld goleuni Duw â'i lygaid; ac adfer Sara, merch Ragwel, trwy ei rhoi hi'n wraig i Tobias fab Tobit, a'i rhyddhau o afael Asmodeus, yr ysbryd drwg, oherwydd Tobias oedd biau'r hawl arni o flaen pawb arall a oedd am ei phriodi. Aeth Tobit yn ôl i'w dŷ o'r cyntedd, ac ar yr un pryd yn union daeth Sara, merch Ragwel, hithau i lawr o'r oruwchystafell.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14