Tobit 4 BCND

Cyngor Tobit i Tobias

1 Dyna'r diwrnod y cofiodd Tobit am yr arian yr oedd wedi ei adael yng ngofal Gabael yn Rhages yn Media,

2 a myfyriodd ynddo'i hun fel hyn: “Gan imi weddïo am gael marw, oni ddylwn alw Tobias fy mab ac esbonio wrtho am yr arian hwn cyn imi farw?”

3 Felly, galwodd ei fab Tobias a dweud wrtho pan ddaeth ato, “Rho angladd parchus i mi, ac anrhydedda dy fam; paid â'i gadael hi'n ddigymorth tra bydd hi byw. Gwna'r hyn a fydd wrth fodd ei chalon, a phaid â pheri gofid iddi ag unrhyw weithred.

4 Cofia, fy machgen, iddi wynebu peryglon lawer wrth dy gario di yn ei chroth. Pan fydd hi farw, rho hi i orwedd wrth fy ochr yn yr un bedd.

5 Bydd yn ffyddlon i'r Arglwydd holl ddyddiau dy fywyd, fy machgen, heb bechu o'th ewyllys na throseddu yn erbyn ei orchmynion. Gwna weithredoedd da holl ddyddiau dy fywyd, a phaid â cherdded llwybrau drygioni;

6 oherwydd caiff y rhai cywir eu gweithredoedd lwyddiant yn eu gwaith,

7 ac i'r cyfiawn eu gweithredoedd

19 fe rydd yr Arglwydd gyngor da, ond y mae'n darostwng i ddyfnder Hades unrhyw un a fyn. Cofia'r gorchmynion hyn yn awr, fy machgen, heb adael i'r un ohonynt gael ei ddileu o'th feddwl.

20 “Ac yn awr, fy machgen, rwyf am i ti wybod bod gennyf ddeg darn arian ynghadw yng ngofal Gabael, brawd Gabri, yn Rhages yn Media.

21 Ac felly, os ydym wedi mynd yn dlawd, paid â phryderu, fy machgen. Mawr fydd dy gyfoeth os bydd iti ddal i ofni Duw, gan gilio oddi wrth bob pechod a gwneud yr hyn sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14