8 Taena fustl y pysgodyn ar ei lygaid; bydd yr eli'n achosi i'r smotiau gwyn grebachu a syrthio i ffwrdd oddi ar ei lygaid. Yna caiff dy dad ei olwg yn ôl, a gweld golau dydd.”
9 A dyma Anna'n rhedeg at ei mab ac yn ei gofleidio. “Cefais dy weld, fy machgen,” meddai wrtho. “Rwy'n barod i farw yn awr.” A thorrodd i wylo.
10 Ar hynny cododd Tobit ar ei draed, a baglodd allan trwy ddrws y cyntedd.
11 Cerddodd Tobias ato â bustl y pysgodyn yn ei law; chwythodd ar ei lygaid, a chan afael yn dynn ynddo dywedodd, “Paid ag ofni, fy nhad.”
12 Rhoes yr eli ar ei lygaid a'i daenu drostynt.
13 Yna, â'i ddwy law fe dynnodd y bilen wen oddi ar gil llygaid ei dad. Cofleidiodd Tobit ei fab; torrodd i wylo a dweud,
14 “Rwy'n gallu dy weld, fy mhlentyn, goleuni fy llygaid.” Ychwanegodd, “Bendigedig fyddo Duw! Bendigedig fyddo'i enw mawr! Bendigedig fyddo'i holl angylion sanctaidd! Boed ei enw mawr arnom, a bendith ar ei holl angylion sanctaidd yn oes oesoedd!