Tobit 14:1-6 BCND

1 Â'r geiriau hyn gorffennodd Tobit ei emyn o fawl. Bu farw mewn tangnefedd, ac yntau'n gant a deuddeng mlwydd oed, a chladdwyd ef yn llawn clod yn Ninefe.

2 Yr oedd yn ddwy a thrigain oed pan ddaeth yr anaf ar ei lygaid, ond wedi iddo gael ei olwg yn ôl bu'n byw yn dda ei fyd. Bu'n hael ei gymwynasau, gan fendithio Duw a chlodfori ei fawredd yn gyson.

3 Ar ei wely angau galwodd ato ei fab Tobias a rhoi'r gorchymyn hwn iddo:

4 “Fy machgen, cymer dy blant a ffo i Media, oherwydd yr wyf fi'n credu gair Duw, y gair a lefarodd Nahum yn erbyn Ninefe. Fe gyflawnir y cyfan. Fe ddigwydd pob peth i Asyria a Ninefe yn union fel y llefarodd cenhadon Duw, proffwydi Israel; ni fydd yr un o'u holl eiriau yn methu. Fe ddigwydd pob peth yn ei amser priodol. Yn Media, felly, y cewch ddiogelwch, nid yn Asyria a Babilon, oherwydd y mae'n gred sicr gennyf y cyflawnir pob gair a lefarodd Duw. Dyma a fydd—ni fydd yr un gair o'r proffwydoliaethau yn methu. Fe wasgerir ein holl berthnasau sy'n preswylio yng ngwlad Israel, a'u dwyn yn gaeth o'u tir da. Bydd y cwbl o dir Israel yn anghyfannedd; a bydd Samaria a Jerwsalem yn anghyfannedd, ac am gyfnod bydd tŷ Dduw mewn galar, wedi ei ddifetha drwy dân.

5 “Ond eto fe drugarha Duw wrthynt, ac fe ddaw Duw â hwy yn ôl i dir Israel. Ailgodant ei dŷ, er na fydd yn debyg i'r tŷ cyntaf, nid nes y daw'r cyfnod penodedig o amser i ben. Wedi hynny, daw pob un yn ôl o'u caethglud ac adeiladu Jerwsalem yn ei holl ogoniant. Fe godir tŷ Dduw ynddi, fel y llefarodd proffwydi Israel amdani.

6 Bydd pob cenedl ar draws y byd, pob un ohonynt, yn troi'n ôl at Dduw mewn parchedig ofn diffuant; ymwrthodant oll â'u heilunod, a fu'n eu harwain ar gyfeiliorn i ffordd anwiredd,