Tobit 14:7-13 BCND

7 a bendithiant y Duw tragwyddol mewn cyfiawnder. Ac fe gesglir ynghyd holl blant Israel a achubir yn y dyddiau hynny ac sy'n wir deyrngar i Dduw. Dychwelant i Jerwsalem a phreswylio yn ddiogel am byth yn nhir Abraham, a roddir iddynt i'w feddiannu. Bydd y rhai sy'n caru Duw mewn gwirionedd yn llawenhau, ond diflannu y bydd y pechaduriaid a'r drwgweithredwyr oddi ar wyneb y ddaear.

8 Ac yn awr, fy mhlant, dyma fy ngorchymyn i chwi: gwasanaethwch Dduw mewn gwirionedd, a gwnewch yr hyn sy'n gymeradwy yn ei olwg ef;

9 a chyfarwyddwch eich plant i wneud yr hyn sy'n iawn, ac i roi elusen, ac i fod yn deyrngar i Dduw a bendithio'i enw bob amser mewn gwirionedd ac â'u holl nerth.

10 “A thithau, fy machgen, dos allan o Ninefe. Paid ag aros yma. Y dydd y byddi'n claddu dy fam wrth fy ochr, ymfuda heb dreulio noson o fewn cyffiniau'r ddinas, oherwydd yr wyf yn gweld bod anghyfiawnder yn rhemp ac anffyddlondeb digywilydd yn uchel ei ben ynddi. Ystyria, fy machgen, yr holl bethau a wnaeth Nadab i Achicar, yr un a'i magodd. Oni orfodwyd ef i ymguddio yn y pridd, ac yntau'n fyw? Ond troes Duw y weithred gywilyddus yn fantais iddo: daeth Achicar allan i olau dydd, tra syrthiodd Nadab i fagl farwol, ac fe'i lladdodd. Am iddo roi elusen, fe ddihangodd Achicar o'r fagl farwol a osododd Nadab iddo, ond syrthiodd Nadab i'r fagl farwol, ac fe'i lladdodd.

11 Ystyriwch, felly, fy mhlant, beth yw ffrwyth elusengarwch, a beth yw ffrwyth anghyfiawnder, oherwydd lladd y mae hwnnw. Ond yn awr y mae fy einioes yn dod i ben.”Rhoesant ef i orwedd ar ei wely, a bu farw. Claddwyd ef yn llawn clod.

12 Wedi marw ei fam, claddodd Tobias hithau wrth ochr ei dad. Yna aeth Tobias a'i wraig i Media, ac ymsefydlu yn Ecbatana yn nhŷ Ragwel ei dad-yng-nghyfraith.

13 Gofalodd Tobias amdanynt yn eu henaint â phob parch, a'u claddu yn Ecbatana yn Media. Etifeddodd Tobias holl eiddo Ragwel yn ogystal ag eiddo Tobit ei dad.