5 Yna dychwelais ac ymolchi, a bwyta fy mwyd mewn galar,
6 gan gofio geiriau'r proffwyd, y geiriau a lefarodd Amos yn erbyn Bethel, pan ddywedodd:“Troir eich gwyliau yn alar,a'ch holl ganeuon yn wylofain.”Wylais innau hefyd.
7 Wedi machlud haul, euthum allan a thorri bedd a chladdu'r corff.
8 Yr oedd fy nghymdogion yn chwerthin am fy mhen a dweud, “Onid oes ofn arno bellach? Oherwydd pan geisiwyd ef i'w roi i farwolaeth am y weithred hon o'r blaen, fe redodd i ffwrdd, ond dyma fe unwaith eto'n claddu'r meirw.”
9 Y noson honno, wedi imi ymolchi, euthum allan i'm cyntedd a chysgu wrth wal y cyntedd, heb orchudd ar fy wyneb o achos y gwres.
10 Ni wyddwn fod adar y to ar y wal uwch fy mhen; syrthiodd diferion o'u baw yn dwym i mewn i'm llygaid, gan ymdaenu'n smotiau gwyn drostynt. Euthum at y meddygon am driniaeth, ond po fwyaf o ennaint a roddent ar fy llygaid, llwyraf oll y collwn fy ngolwg dan y smotiau gwyn, nes i mi fynd yn gwbl ddall. Bûm heb ddefnydd fy llygaid am bedair blynedd. Yr oedd fy nhylwyth oll yn gofidio amdanaf, ac am y ddwy flynedd cyn iddo ymfudo i Elymais bu Achicar yn gofalu amdanaf.
11 Yn ystod y cyfnod hwn bu Anna fy ngwraig yn ennill cyflog wrth waith merched.