Tobit 7:11-17 BCND

11 Rwyf wedi ei rhoi hi'n wraig i saith gŵr o blith ein brodyr, ond bu farw pob un ohonynt yr union noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi. Ond bellach bwyta ac yf, fy machgen. Bydd yr Arglwydd yn drugarog wrthych.” Ond atebodd Tobias, “Nid wyf am fwyta nac yfed dim oll yma cyn iti ddyfarnu ynglŷn â'm cais.”

12 “O'r gorau,” meddai Ragwel wrtho, “fe'i rhoddir hi iti yn unol ag ordinhad llyfr Moses, oherwydd o'r nef y daeth y dyfarniad ei bod i'w rhoi iti. Cymer dy berthynas. O hyn ymlaen rwyt ti'n frawd iddi hi a hithau'n chwaer i ti. Y mae hi wedi ei rhoi iti o'r dydd heddiw ac am byth. Bydded i Arglwydd y nef eich llwyddo chwi y nos hon, fy machgen, a chaniatáu i chwi drugaredd a thangnefedd.”

13 Yna galwodd Ragwel Sara ei ferch. Pan ddaeth ato, gafaelodd yn ei llaw a'i chyflwyno hi i Tobias, gan ddweud, “Cymer hi yn unol â'r gyfraith ac â'r ordinhad sydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr Moses, sef fy mod i'w rhoi yn wraig i ti. Cadw hi a dos â hi adref at dy dad yn ddiogel. Bydded i Dduw'r nef sicrhau llwyddiant a thangnefedd i chwi.”

14 Galwodd Ragwel ar ei mam hi a dweud wrthi am ddod â sgrôl, ac ysgrifennodd arni eu cyfamod priodasol, gan egluro hefyd iddo ei rhoi yn wraig i Tobias yn unol ag ordinhad cyfraith Moses.

15 Wedi hynny dechreusant fwyta ac yfed.

16 Yna galwodd Ragwel ar Edna ei wraig a dweud wrthi, “Fy chwaer, gwna'r ystafell arbennig yn barod, a chymer hi yno.”

17 Aeth hithau a chyweirio gwely yn yr ystafell, fel y dywedodd wrthi. Aeth â'r ferch yno, ond torrodd i wylo o'i hachos. Yna sychodd ei dagrau a dweud wrthi,