3 A dyma Edna yn eu holi: “O ble'r ydych chwi'n dod, frodyr?” “Yr ydym ni,” atebasant, “yn perthyn i feibion Nafftali, y rheini sydd mewn caethiwed yn Ninefe.”
4 Holodd ymhellach: “A ydych chwi'n adnabod Tobit ein perthynas?” “Ydym,” meddent, “yr ydym yn ei adnabod.” “A yw ef yn iach?” gofynnodd hi.
5 “Y mae'n fyw ac yn iach,” meddent, a Tobias yn ychwanegu, “Ef yw fy nhad.”
6 Neidiodd Ragwel ar ei draed a'i gusanu. Â dagrau yn ei lygaid llefarodd y geiriau hyn wrtho: “Bendith arnat, fy machgen! Rwyt ti'n fab i dad nobl a chywir.
7 Y mae'n drueni o'r mwyaf fod dyn mor gyfiawn ac aml ei gymwynasau wedi colli ei olwg.” Rhoes ei freichiau am wddf Tobias ei berthynas, ac wylo.
8 Torrodd Edna ei wraig i wylo o achos Tobit, a'r un modd Sara eu merch. Lladdodd Ragwel fyharen o'r praidd yn arwydd o'i groeso brwd iddynt.Wedi iddynt ymolchi drostynt a golchi eu dwylo, cymerasant eu lle wrth y bwrdd cinio. Yna gofynnodd Tobias i Raffael, “Asarias, fy mrawd, dywed wrth Ragwel am roi Sara fy mherthynas imi.”
9 Digwyddodd Ragwel glywed ei eiriau, a dywedodd wrth y llanc, “Bwyta, yf a bydd lawen y nos hon,