7 Yn awr, felly, nid mewn puteindra yr wyf yn cymryd fy chwaer hon, ond mewn gwir briodas. Caniatâ dy drugaredd arnaf fi ac arni hithau, er mwyn inni fyw yn hen yng nghwmni'n gilydd.”
8 Ac meddai'r ddau gyda'i gilydd, “Amen, Amen.”
9 Yna aethant i orwedd am y nos.Ond deffrôdd Ragwel a galw ato weision y tŷ, ac aethant allan i dorri bedd.
10 “Rhag ofn,” meddai, “i Tobias farw, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd a dirmyg.”
11 Wedi iddynt orffen torri'r bedd, daeth Ragwel yn ôl i'r tŷ a galw ar ei wraig.
12 “Anfon un o'r morynion i'r ystafell,” meddai, “i fynd a gweld a yw'n dal yn fyw. Os yw wedi marw, yr ydym am ei gladdu rhag i neb wybod.”
13 Anfonasant y forwyn felly. Wedi iddynt gynnau lamp ac agor y drws, aeth hi i mewn a chael y ddau yn gorwedd gyda'i gilydd ac yn cysgu'n drwm.