40 A'r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
41 A chlybu Adoneia, a'i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol?
42 Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.
43 A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.
44 A'r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.
45 A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a'i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a'r ddinas a derfysgodd. Dyna'r twrf a glywsoch chwi.
46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.