1 Brenhinoedd 2 BWM

1 Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd,

2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr;

3 A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:

4 Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon, ac â'u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.

5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.

6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i'w benllwydni ef ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.

7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di.

8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r Arglwydd wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.

9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i'r bedd mewn gwaed.

10 Felly Dafydd a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd.

11 A'r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

12 A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a'i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr.

13 Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddywedodd, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon.

14 Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi. Hithau a ddywedodd, Dywed.

15 Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i'm brawd: canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef.

16 Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddywedodd wrtho, Dywed.

17 Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.

18 A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.

19 Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A'r brenin a gododd i'w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.

20 Yna hi a ddywedodd, Un dymuniad bychan yr ydwyf fi yn ei ddymuno gennyt; na omedd fi. A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Gofyn, fy mam: canys ni'th omeddaf.

21 A hi a ddywedodd, Rhodder Abisag y Sunamees yn wraig i Adoneia dy frawd.

22 A'r brenin Solomon a atebodd ac a ddywedodd wrth ei fam, Paham y ceisi di Abisag y Sunamees i Adoneia? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef; canys fy mrawd hŷn na mi ydyw efe; a chydag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfia.

23 A'r brenin Solomon a dyngodd i'r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei einioes y llefarodd Adoneia y gair hwn.

24 Yn awr gan hynny, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a'm sicrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orseddfainc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y dywedasai efe: heddiw yn ddiau y rhoddir Adoneia i farwolaeth.

25 A'r brenin Solomon a anfonodd gyda Benaia mab Jehoiada; ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

26 Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, Dos i Anathoth, i'th fro dy hun; canys gŵr yn haeddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hwn; oherwydd dwyn ohonot arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhad Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhad.

27 Felly y bwriodd Solomon Abiathar ymaith o fod yn offeiriad i'r Arglwydd; fel y cyflawnai air yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe am dŷ Eli yn Seilo.

28 A'r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr Arglwydd, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.

29 A mynegwyd i'r brenin Solomon, ffoi o Joab i babell yr Arglwydd; ac wele, y mae efe wrth yr allor. A Solomon a anfonodd Benaia mab Jehoiada, gan ddywedyd, Dos, rhuthra arno ef.

30 A daeth Benaia i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn'y dywedodd Joab, ac fel hyn y'm hatebodd.

31 A dywedodd y brenin wrtho ef, Gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef; fel y tynnych y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnaf fi, ac oddi ar dŷ fy nhad i.

32 A'r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a'u lladdodd hwynt â'r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.

33 A'u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i'w had, ac i'w dŷ, ac i'w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.

34 Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.

35 A'r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A'r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

36 A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.

37 Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.

38 A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.

39 Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.

40 A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.

41 A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a'i ddychwelyd ef.

42 A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i'r Arglwydd, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf, Da yw y gair a glywais.

43 Paham gan hynny na chedwaist lw yr Arglwydd, a'r gorchymyn a orchmynnais i ti?

44 A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;

45 A bendigedig fydd y brenin Solomon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr Arglwydd yn dragywydd.

46 Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A'r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22