1 Brenhinoedd 11 BWM

1 Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau;

2 O'r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad.

3 Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a'i wragedd a droesant ei galon ef.

4 A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r Arglwydd ei Dduw, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef.

5 Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid.

6 A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.

7 Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd‐dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon.

8 Ac felly y gwnaeth efe i'w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i'w duwiau.

9 A'r Arglwydd a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith,

10 Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd.

11 Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyfamod a'm deddfau a orchmynnais i ti; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a'i rhoddaf hi i'th was di.

12 Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi.

13 Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i'th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais.

14 A'r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe.

15 Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu'r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom;

16 (Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:)

17 Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i'r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto.

18 A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i'r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo.

19 A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines.

20 A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a'i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo.

21 A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda'i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i'm gwlad fy hun.

22 A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i'th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd, Dim; eithr gan ollwng gollwng fi.

23 A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd:

24 Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus.

25 Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieiddiodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.

26 A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin.

27 Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Solomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad.

28 A'r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a'i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff.

29 A'r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a'i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes.

30 Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a'i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau.

31 Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo'r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti:

32 (Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:)

33 Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a'm barnedigaethau, fel Dafydd ei dad.

34 Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o'i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a'm deddfau i:

35 Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth.

36 Ac i'w fab ef y rhoddaf un llwyth; fel y byddo goleuni i'm gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno.

37 A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon; a thi a fyddi frenin ar Israel.

38 Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti.

39 A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd.

40 Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i'r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.

41 A'r rhan arall o weithredoedd Solomon, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon?

42 A'r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeugain mlynedd.

43 A Solomon a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22