1 Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.
2 Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau.
3 Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes.
4 Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
5 A'r holl ddrysau a'r gorsingau oedd ysgwâr, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.
6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a'r porth oedd o'u blaen hwynt; a'r colofnau eraill a'r swmerau oedd o'u blaen hwythau.
7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o'r naill gwr i'r llawr hyd y llall.
8 Ac i'w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o'r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn.
9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a'u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o'r sylfaen hyd y llogail; ac felly o'r tu allan hyd y cyntedd mawr.
10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd.
11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd.
12 Ac i'r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhes o gerrig nadd, a rhes o drawstiau cedrwydd, i gyntedd tŷ yr Arglwydd oddi fewn, ac i borth y tŷ.
13 A'r brenin Solomon a anfonodd ac a gyrchodd Hiram o Tyrus.
14 Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a'i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe; a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.
15 Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o'r ddwy.
16 Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i'w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.
17 Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i'r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i'r naill gnap, a saith i'r cnap arall.
18 Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio'r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i'r cnap arall.
19 A'r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd.
20 Ac i'r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a'r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.
21 Ac efe a gyfododd y colofnau ym mhorth y deml: ac a gyfododd y golofn ddeau, ac a alwodd ei henw hi Jachin; ac efe a gyfododd y golofn aswy, ac a alwodd ei henw hi Boas.
22 Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofnau.
23 Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a'i hamgylchai oddi amgylch.
24 A chnapiau a'i hamgylchent ef dan ei ymyl o amgylch, deg mewn cufydd oedd yn amgylchu'r môr o amgylch: y cnapiau oedd yn ddwy res, wedi eu bwrw pan fwriwyd yntau.
25 Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri oedd yn edrych tua'r gogledd, a thri yn edrych tua'r gorllewin, a thri yn edrych tua'r deau, a thri yn edrych tua'r dwyrain: a'r môr arnynt oddi arnodd, a'u pennau ôl hwynt oll o fewn.
26 Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.
27 Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.
28 A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a'r ystlysau oedd rhwng y delltennau:
29 Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a'r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.
30 A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.
31 A'i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a'i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a'i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.
32 A'r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.
33 Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a'u bothau, a'u camegau, a'u hadenydd, oedd oll yn doddedig.
34 Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o'r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi.
35 Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a'i thaleithiau o'r un.
36 Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch.
37 Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.
38 Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bedwar cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o'r deg ystôl.
39 Ac efe a osododd bum ystôl ar ystlys ddeau y tŷ, a phump ar yr ystlys aswy i'r tŷ: a'r môr a osododd efe ar y tu deau i'r tŷ, tua'r dwyrain, ar gyfer y deau.
40 Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a'r rhawiau, a'r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i'r brenin Solomon yn nhŷ yr Arglwydd.
41 Y ddwy golofn, a'r cnapiau coronog y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a'r ddau rwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar ben y colofnau;
42 A phedwar cant o bomgranadau i'r ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i un rhwydwaith, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar y colofnau;
43 A'r deg ystôl, a'r deg noe ar yr ystolion;
44 Ac un môr, a deuddeg o ychen dan y môr;
45 A'r crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau; a'r holl lestri a wnaeth Hiram i'r brenin Solomon, i dŷ yr Arglwydd, oedd o bres gloyw.
46 Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.
47 A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.
48 A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr Arglwydd; yr allor aur, a'r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;
49 A phum canhwyllbren o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, o flaen y gafell, yn aur pur; a'r blodau, a'r llusernau, a'r gefeiliau, o aur;
50 Y ffiolau hefyd, a'r saltringau, a'r cawgiau, a'r llwyau, a'r thuserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ, o fewn y cysegr sancteiddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.
51 Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr Arglwydd. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a'r aur, a'r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr Arglwydd.