1 Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â'r cleddyf.
2 Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy.
3 A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lanc yno.
4 Ond efe a aeth i'r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, Arglwydd, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na'm tadau.
5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta.
6 Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn.
7 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd.
8 Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw.
9 Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias?
10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau.
11 Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo'r mynyddoedd, ac yn dryllio'r creigiau o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn:
12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain.
13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias?
14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i'w dwyn hi ymaith.
15 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i'th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria;
16 A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel‐mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy le dy hun.
17 A'r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a'i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu.
18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a'r nis cusanodd ef.
19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, â deuddeg cwpl o ychen o'i flaen, ac efe oedd gyda'r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef.
20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a'm mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel; canys beth a wneuthum i ti?
21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerth gwpl o ychen, ac a'u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a'i rhoddodd i'r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a'i gwasanaethodd ef.