46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.
47 A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na'th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na'th orseddfainc di. A'r brenin a ymgrymodd ar y gwely.
48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a'm llygaid innau yn gweled hynny.
49 A'r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.
50 Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
51 A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni'r brenin Solomon: canys wele, efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â'r cleddyf.
52 A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o'i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw.