1 A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd, hi a ddaeth i'w brofi ef â chwestiynau caled.
2 A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.
3 A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a'r na fynegodd efe iddi hi.
4 A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladasai efe,
5 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a'u dillad hwynt, a'i drulliadau ef, a'i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.
6 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.
7 Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i'm llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a'th ddaioni na'r clod a glywais i.