11 A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr.
12 A'r brenin a wnaeth o'r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gantorion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn.
13 A'r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o'i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.
14 A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;
15 Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.
16 A'r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian:
17 A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.