17 A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.
18 A'r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a'i gwisgodd hi ag aur o'r gorau.
19 Chwech o risiau oedd i'r orseddfainc; a phen crwn oedd i'r orseddfainc o'r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau.
20 A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o'r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas.
21 A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon.
22 Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.
23 A'r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb.