24 A'r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb ef, a roddasai Duw yn ei galon ef.
25 A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.
26 A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
27 A'r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a'r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
28 A meirch a ddygid i Solomon o'r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris.
29 A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o'r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.