4 A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladasai efe,
5 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a'u dillad hwynt, a'i drulliadau ef, a'i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.
6 A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.
7 Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i'm llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a'th ddaioni na'r clod a glywais i.
8 Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb.
9 Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th hoffodd di, i'th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder.
10 A hi a roddes i'r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â'r rhai a roddodd brenhines Seba i'r brenin Solomon.